Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

CLAXXX – Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yn darparu un Ddeddf sy’n dwyn ynghyd ddyletswyddau a swyddogaethau awdurdodau lleol mewn perthynas â gwella llesiant y bobl hynny y mae angen gofal a chymorth arnynt, a’r gofalwyr hynny y mae angen cymorth arnynt.

Mae’r Rheoliadau yn nodi’r prawf y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei gymhwyso i ddyfarnu a oes gan unigolyn, y mae ei anghenion wedi eu nodi mewn asesiad a gynhaliwyd gan awdurdod lleol, yr hawl i gael yr anghenion hynny wedi eu diwallu gan awdurdod lleol.  Mae’r Rheoliadau’n nodi’r prawf sydd i’w gymhwyso mewn perthynas ag oedolion, plant a gofalwyr (gan gynnwys gofalwyr sy’n blant).

Gweithdrefn: Y Weithdrefn Uwchgadarnhaol.

1.        Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2.

 

2.        Rhinweddau: craffu

Nodwyd Rheol Sefydlog 21.3(ii) a ganlyn mewn perthynas â’r offeryn drafft hwn.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u gwneud gan ddefnyddio gweithdrefn ‘uwchgadarnhaol’. 

 

Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymhwyso meini prawf cymhwysedd cenedlaethol i benderfynu ar eu dyletswydd i ddiwallu anghenion penodol.  Ar gyfer oedolion, bydd hyn yn dileu’r trothwy traddodiadol ar gyfer cael mynediad at ofal a chymorth a reolir.  Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n cyd-fynd â’r Rheoliadau yn nodi y bydd hyn yn sicrhau ymateb mwy pwrpasol ac ymatebol i bob unigolyn.

 

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gymhwyso meini prawf cymhwysedd cenedlaethol i benderfynu ar eu dyletswydd i ddiwallu anghenion plant o ran gofal a chymorth.  Mae hyn yn wahanol i ddull gweithredu Deddf Plant 1989 sy’n cynnwys diffiniad o blentyn mewn angen ac sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant o’r fath.  Bydd cymhwystra plentyn yn llifo o’r broses asesu.

 

O dan y Ddeddf, mae dyletswydd ar awdurdod lleol i gynnal asesiad o anghenion gofalwr – gan gynnwys gofalwr sy’n blentyn – pan ymddengys i’r awdurdod fod angen cymorth ar y gofalwr.  Bydd dyletswydd ar awdurdod lleol i ddiwallu’r anghenion a nodir pan maent yn bodloni’r meini prawf cenedlaethol.

Bydd yr Aelodau am nodi bod y Rheoliadau’n nodi’r prawf y mae’n rhaid i awdurdod lleol ei gymhwyso wrth benderfynu a oes gan unigolyn anghenion y mae’n rhaid eu diwallu. Bydd y Cod Ymddygiad, a bennir o dan adran 145 o’r Ddeddf, yn atodol i’r Rheoliadau. Mae’r Cod hwn yn annog awdurdodau lleol i fodloni eu dyletswyddau i ddarparu neu drefnu ar gyfer darparu gwasanaethau ataliol, hyrwyddo mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, gwasanaethau a arweinir gan y defnyddiwr a’r trydydd sector, a darparu gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth er mwyn lleihau nifer yr unigolion y bydd angen cynllun gofal a chymorth arnynt.

 

Gwasanaethau Cyfreithiol

 11 Mai 2015